English
Sbarci + Fflic
Ffeithiau Slic Ffeithiau Slic Ffeithiau Slic Ffeithiau Slic Ffeithiau Slic Ffeithiau Slic

Newyddion

Rydych chi yma: Cartref > Newyddion
Ysgol Morfa Nefyn yn curo Cynghrair Sbarci a Fflic
Ysgol Morfa Nefyn

Ysgol Morfa Nefyn yn curo Cynghrair Sbarci a Fflic
Llongyfarchiadau i Ysgol Morfa Nefyn, sydd wedi curo Cynghrair Sbarci a Fflic eleni drwy ddefnyddio 36.5% yn llai o drydan dros y flwyddyn ddiwethaf! Llongyfarchiadau hefyd i Ysgol Penybryn, Tywyn, a ddaeth yn ail, ac Ysgol Llanrug a oedd yn drydedd yn y Gynghrair.
Mwy am enillwyr Cynghrair Sbarci a Fflic 2014 ar wefan Cyngor Gwynedd

Ysgol Abersoch yn curo Cynghrair Sbarci a Fflic
Ysgol Abersoch

Ysgol Abersoch yn curo Cynghrair Sbarci a Fflic
Mae Cynghrair 2013 wedi ei chyhoeddi o'r diwedd, ac Ysgol Abersoch oedd ar y brig! Da iawn nhw! Yn ail daeth Ysgol Abercaseg, ac Ysgol Dinas Mawddwy yn drydedd. Fe aeth y Cynghorydd Gareth Roberts, sydd yn gyfrifol am faterion yn ymwneud a'r amgylchedd yng Nghyngor Gwynedd, o amgylch y tair ysgol er mwyn cyflwyno eu gwobrau, ac i ddiolch yn bersonol i'r Ysgolion hyn.
Mwy am enillwyr cynghrair Sbarci a Fflic ar wefan Cyngor Gwynedd

Paneli Solar Ysgol y Berwyn
Ysgol y Berwyn

Mwy o ysgolion yn derbyn paneli solar
Yng ngaeaf 2012/13, cafodd 15 o adeiladau ychwanegol y Cyngor baneli solar i gynhyrchu trydan eu hunain. Erbyn hyn felly, mae gan 9 ysgol gynradd, a 7 ysgol uwchradd baneli solar! Maen nhw hefyd yn gallu gweld faint o drydan maen nhw yn ei gynhyrchu bob diwrnod ar wefan!
Mwy am baneli solar ar wefan cyngor Gwynedd

Partneriaeth Amgylcheddol Gwynedd
Partneriaeth
Amgylcheddol Gwynedd

Cynhadledd Ieuenctid PAG
Cafodd Cynhadledd Ieuenctid Partneriaeth Amgylcheddol Gwynedd ei gynnal ym Mhlas Menai yn ddiweddar, yn canolbwyntio ar ynni gwyrdd. Bu nifer o siaradwyr yn rhoi gwybod i bobl ifanc Gwynedd am wahanol feysydd gwaith amgylcheddol yn y Sir. Am fwy o wybodaeth ynghylch y bartneriaeth, ewch i'w gwefan www.pagwynedd.org.
Mwy am gynhadledd ieuenctid PAG ar wefan Cyngor Gwynedd

Sbarci a Fflic
Sbarci a Fflic

Paratoi at gynghrair arbed ynni ysgolion Gwynedd
Mae hi bron iawn yn amser i gyfrifo faint o ynni mae ysgolion Gwynedd wedi llwyddo i arbed y flwyddyn yma! Yn ystod mis Mehefin, fe fyddwn yn cyhoeddi pa Ysgol sydd wedi llwyddo i arbed y mwyaf o ynni ers mis Medi. Byddwn yn cyfrifo faint o ynni mae 67 o ysgolion wedi llwyddo i gyflawni, sef yr ysgolion oedd yn ymuno a'r cynllun dros y ddwy flynedd diwethaf.
Cynghrair hyd at diwedd Rhagfyr 2012 (ysgolion blwyddyn 2 yn unig)

Eco Gyngor Ysgol Friars yn mesur faint o drydan mae'r paneli solar wedi ei gynhyrchu
Eco Gyngor Ysgol Friars yn
mesur faint o drydan mae'r
paneli solar wedi ei gynhyrchu

Ysgol Friars yn cynhyrchu trydan
Mae Ysgol Friars, Bangor, yn un o ysgolion cyntaf Gwynedd i gychwyn cynhyrchu eu trydan eu hunain! Yn ystod tymor yr Hydref 2012 cafodd yr ysgol baneli solar ffotofoltaidd ar y to er mwyn defnyddio ynni'r haul i gynhyrchu trydan. Bydd y disgyblion yn dysgu mwy am sut mae'r paneli yn gweithio yn eu gwersi!
Mwy am Ysgol Friars ar wefan Cyngor Gwynedd

Tîm Ynni Ysgol Garndolbenamen
Tîm Ynni
Ysgol Garndolbenamen

Cynllun Sbarci a Fflic yn cychwyn ar ei ail flwyddyn
Yn dilyn blwyddyn gyntaf llwyddiannus, mae 33 o Ysgolion Cynradd ychwanegol wedi ymuno a chynllun Sbarci a Fflic, yn dod a'r cyfanswm o ysgolion sydd yn ran o'r cynllun i 67. Bu'r ysgolion yn rhan o'r cynllun yn ystod y flwyddyn diwethaf, yn gyfrifol am arbed gwerth £32,000 o ynni dros gyfnod o 6 mis. Fe fydd yr ysgolion newydd yn gweithio'n galed i geisio lleihau defnydd yr ysgol o ynni er mwyn lleihau eu ôl troed carbon.
Mwy am ail flwyddyn Sbarci a Fflic yn Newyddion Gwynedd Hydref 2012

Ysgol Maesincla yn derbyn eu gwobr gan y Cynghorydd Gareth Roberts
Ysgol Maesincla yn derbyn
eu gwobr gan y Cynghorydd
Gareth Roberts

Ysgol Maesincla yn dod ar frig Cynghrair Sbarci a Fflic 2012
Cyhoeddwyd cynghrair Sbarci a Fflic ym mis Mehefin 2012, a'r Ysgol wnaeth arbed y mwyaf o ynni dros y flwyddyn diwethaf oedd Ysgol Maesincla. Llwyddodd yr Ysgol i leihau eu defnydd ynni bron i 32%! Daeth Ysgol Ein Harglwyddes yn ail, ac Ysgol y Faenol yn drydedd. Cyflwynwyd yr ysgolion hyn gydau gwobrau yn Eisteddfod yr Urdd yng Nglynllifon, gan y Cynghorydd Gareth Roberts, Aelod Cabinet dros yr Amgylchedd yma yng Ngwynedd.

Lansio gwefan Sbarci a Fflic yn Ysgol y Faenol
Lansio gwefan Sbarci a Fflic
yn Ysgol y Faenol

Lansio Gwefan newydd Sbarci a Fflic
Cafodd gwefan newydd Sbarci a Fflic ei lansio yn Ysgol y Faenol ym mis Ebrill 2012. Mae gwefan Sbarci a fflic yn llawn gwybodaeth am ynni ac o ble daw ein ynni. Mae cartwn 'Sbarci a Fflic yn Chwythu Ffiws' hefyd ar y wefan.
Mwy am y stori yma ar wefan Cyngor Gwynedd

Carys Ferris, Rheolwr y Ganolfan Hamdden
Carys Ferris, Rheolwr y
Ganolfan Hamdden

Canolfan Hamdden Dwyfor yn Arbed Ynni
Mae offer newydd wedi ei osod yng Nghanolfan Hamdden Dwyfor sydd yn golygu fod y ganolfan yn defnyddio llawer llai o drydan! Mae'r ganolfan yn defnyddio oddeutu 60% yn llai o drydan rwan na chyn i'r offer gael ei osod. Mae'r ganolfan wedi cael uned pwer a gwres gyfunol (CHP) sydd yn arbed trydan. Mae nhw hefyd wedi cael bwyleri newydd, a gorchudd ar y pwll nofio sydd yn helpu i gadw gwres y pwll yn gynnes dros nos. Mae hyn yn helpu i leihau eu defnydd o nwy.
Mwy am y stori yma ar wefan Cyngor Gwynedd