
Rydych chi yma: Cartref > Ffeithiau Slic
llun gan CraftyGoat
Pan fyddwch yn rhoi bwlb golau traddodiadol ymlaen, dim ond 10% o'r trydan sy'n cael ei droi'n olau. Mae'r 90% arall yn cael ei wastraffu fel gwres.1
llun gan David Masters
Gall crac mor fychan ag 1/16 o fodfedd o amgylch ffrâm ffenestr adael yr un faint o aer oer i mewn a'r hyn a geir wrth
i chi adael y ffenestr yn agored dair modfedd.1
llun gan David Locke
Yn y DU, rydym yn defnyddio gwerth £1.4 biliwn o drydan wrth ddefnyddio peiriannau golchi dillad, peiriannau sychu dillad
a pheiriannau golchi llestri. Mae hyn yn cynhyrchu tua 6 miliwn tunnell o C02 (Carbon deuocsid) bob blwyddyn – yr un faint â
2 filiwn o geir.2
llun gan Anton Fomkin
Mae bylbiau golau arbed ynni yn defnyddio hyd at 80% yn llai o drydan na bylbiau traddodiadol ac maent yn para tua
deg gwaith yn hirach.2
Pe bai pob aelwyd yn y DU yn gosod un bwlb golau arbed ynni ychwanegol yn y ty, byddai'r C02 (Carbon deuocsid) a arbedwyd
yr un fath â phetai 70,000 o geir yn cael eu tynnu oddi ar y ffyrdd.2
llun gan TheArtGuy
Wyddech chi bod 60% o'r gwres yn cael ei golli drwy'r waliau a'r to mewn tŷ heb ei insiwleiddio?2
llun gan Product Creation Ltd
Pe bai pawb ond yn berwi'r dŵr y mae arnynt ei angen bob tro maent yn defnyddio'r tegell, gallem arbed digon o drydan mewn
blwyddyn i redeg goleuadau stryd y DU am bron i ddeufis.2
llun gan butkaj
Gallai gostwng eich thermostat gwres 1°C pan ydych yn rhy gynnes dorri hyd at 10% oddi ar eich costau gwresogi.2
llun gan LGE
Wyddech chi bod gwerth £900 miliwn o ynni yn cael ei wastraffu wrth adael offer trydanol ar standby, felly chwaraewch
eich rhan a pheidiwch â gadael eich teledu na'ch offer trydanol eraill ar standby a diffoddwch wifrwyr (chargers) yn y wal
os nad ydynt yn cael eu defnyddio.2
1 Ffynhonnell: Alliant Energy Kids
Mwy o ffeithiau gan Alliant Energy Kids
2 Ffynhonnell: Ymddiriedolaeth Arbed Ynni
Mwy o Ystadegau a Ffeithiau gan yr Ymddiriedolaeth Arbed Ynni
Awgrymiadau gan yr Ymddiriedolaeth Arbed Ynni