
Mae'r adnoddau isod i helpu Ysgolion sydd yn rhan o gynllun Sbarci a Fflic.
Dyma drefn a swyddogaethau’r Tîm Ynni
1. Penodi Tîm Ynni, a phenderfynu pa aelodau fydd yn cyflawni pa swyddogaethau.
2. Monitro defnydd trydan os nad oes mesurydd OWL wedi ei osod yn yr ysgol. Bydd angen gwneud hyn unwaith y diwrnod am bythefnos i greu gwaelodlin. Ewch yn syth at y cyfarwyddyd nesaf os oes gennych fesurydd OWL.
3. Monitro defnydd ynni - gyrru darlleniadau mesurydd trydan (a nwy os oes un) unwaith y mis o hyn ymlaen.
4. Cofnodi darlleniadau y mesurydd OWL bob diwrnod am bythefnos, ac wedyn unwaith yr wythnos.
5. Arolwg amser cinio (Ditectifs Ynni) - unwaith y diwrnod am bythefnos ac unwaith yr wythnos ar ôl hynny.
6. Cwblhau'r cynllun gweithredu.
7. Ychwanegu at y cynllun gweithredu os oes gan ddisgyblion syniadau da ar sut i arbed ynni.
8. Bydd angen i aelodau'r tîm ynni fydd yn gadael yr ysgol ar ddiwedd tymor yr haf sicrhau fod rhywun, - aelod newydd, neu aelod arall o'r tîm a fydd yno ym mis Medi, yn gallu cyflawni eu swyddi nhw. Bydd angen i'r sawl fydd yn gadael 'hyfforddi' rhywun yn eu lle.
Adnoddau eraill –